Beth rydym ni yn ei wneud
|
Mae Hands Up For Down's yn darparu cefnogaeth ac amrywiol weithgareddau i'n plant na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad atynt. Mae'r rhain yn cynorthwyo eu datblygiad a'u cynnydd, yn gorfforol, yn academaidd ac yn gymdeithasol.
Rydym yn cynnal sesiynau Therapi Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi, Gymnasteg a Nofio. Mae gennym hefyd fynediad i sesiynau Ysgol Goedwig deuluol trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal, rydym yn trefnu digwyddiadau a phartïon i'n plant a'u teuluoedd ddod at ei gilydd ac i ddathlu ein plant rhyfeddol. |