Nofio |
Rydym yn cynnal sesiynau wythnosol sy'n cael eu harwain gan hyfforddwr nofio cymwys. Gan fod gan blant â Syndrom Down dôn gyhyrau isel, gall ymarfer corff a chryfhau trwy nofio helpu i wella hyn. Gall hefyd helpu gyda'u cydsymud. Mae'r sesiynau'n magu eu hyder mewn dŵr mewn amgylchedd diogel ac yn eu dysgu am ddiogelwch o amgylch dŵr wrth gael hwyl gyda'i gilydd.
|