Samantha Fisher: TrysoryddRoedd fy ngŵr Greg a minnau yn aelodau cynnar o Hands up for Down’s yn dilyn genedigaeth ein mab Eli yn 2012 pan gafodd ei sefydlu fel grŵp cymorth ffurfiol yn 2014 gan nifer o rieni. Rwyf wedi bod yn Drysorydd ar y grŵp ers ei sefydlu, a gweithiais i ennill statws elusennol ym mis Tachwedd 2016 a dod yn Ymddiriedolwr.
|
Janet ChaplinRoeddwn yn falch iawn o gael fy ngofyn i ddod yn ymddiriedolwr ar Hands Up For Down's. Rwy'n fam gyda 2 "blentyn" sydd erbyn hyn yn oedolion ac mae gennyf 3 o wyrion. Cyn i mi ymddeol roeddwn yn Brif Swyddog yn y Gwasanaeth Prawf lle un o fy nghyfrifoldebau rheoli sirol oedd diogelu, rhywbeth yr wyf yn meddwl sy'n fy ngwneud yn addas ar gyfer y rôl hon. Rwyf hefyd yn Gadeirydd Llywodraethwyr ysgol gynradd leol fawr ac rwy’n cymryd rhan flaenllaw yn fy eglwys leol, gan gynnwys ysgrifennu a chynhyrchu pantomeim blynyddol. Mae gen i ddiddordeb eclectig mewn gwaith elusennol yn lleol a byd-eang. Rwy'n gobeithio y gallaf wneud gwahaniaeth i blant Hands Up For Down’s a'u teuluoedd.
|
Nicola PreecePan anwyd Eli bachgen bach hardd fy ffrind gorau yn 2012, daeth yr anawsterau y mae plant â Syndrom Down yn eu hwynebu a’u profi bob dydd yn amlwg iawn. Yn 2016, deuthum yn ymddiriedolwr ar yr elusen er mwyn cynnig fy nghefnogaeth a’m cymorth i’r plant wrth eu helpu i wynebu, brwydro, a goresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth dyfu i fyny mewn byd corff abl.
|
Alan SantimanoGofynnwyd i mi ystyried dod yn ymddiriedolwr ar gyfer Hands Up For Down's yn 2016 gan gydweithiwr ac aelod o'r grŵp. Ar ôl cytuno a chael fy mhenodi, dechreuais helpu yn syth, gan ddod â fy ngwybodaeth gwaith a'm profiad o gyllid, llywodraethu ac ymchwil i'r cyfarfodydd ymddiriedolwyr. Mae'n werth chweil bod yn rhan o'r tîm gwych a bod yn gysylltiedig â'r elusen. Mae'r ymdrech a'r gwaith caled sy'n mynd i sicrhau bod y grŵp elusennol yn elwa cymaint â phosibl wrth sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn hygyrch i bawb yn wych
|