Sgyrsiau Cymunedol
|
Ein nod yw newid canfyddiadau a hyrwyddo dealltwriaeth gadarnhaol o Syndrom Down yn y cymunedau rydyn ni'n byw ynddynt.
Dros y blynyddoedd rydym wedi cael gwahoddiad i siarad â nifer o grwpiau cymunedol lle rydym wedi rhannu profiad ein teuluoedd a sut brofiad yw byw gyda Syndrom Down heddiw. O ganlyniad rydym yn awyddus i hyrwyddo trafodaeth gadarnhaol ac mae gennym agwedd agored iawn at y sgyrsiau hyn. |
Cyflwyniadau BydwrageddRydym hefyd wedi cael gwahoddiad i siarad â Myfyrwyr Bydwragedd ym Mhrifysgol Abertawe am y 3 blynedd diwethaf ac yn fwy diweddar yng Ngholeg Brenhinol y Bydwragedd ynghyd â Julian Hallett o Gymdeithas Syndrom Down. Yn ystod y sesiynau hyn rydym wedi rhannu ein straeon am dderbyn diagnosis o Syndrom Down a’r hyn a gredwn a all helpu i ddarparu profiad cadarnhaol i deuluoedd newydd sy’n croesawu plentyn â Syndrom Down i’r byd.
|