Therapi Laith a Lleferydd
|
Siarad a chyfathrebu yw un o'r heriau mwyaf y mae ein plant yn eu hwynebu felly rydyn ni'n darparu cyfle i bob plentyn fynychu sesiynau un i un gyda therapydd iaith a lleferydd cwbl gymwysedig, ynghyd â'u rhieni / gofalwyr, mewn clinig therapi lleferydd. Mae'r therapyddion yn teilwra'r therapi i anghenion a sgiliau pob plentyn. Mae hyn yn cefnogi eu sgiliau iaith a chyfathrebu, ymarferion ceg ac unrhyw faterion bwydo. Mae gan bob plentyn gynllun i weithio tuag ato ac mae'r clinig, ysgol y plentyn a'r rhieni / gofalwyr i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial llawn gan mai ei allu i gyfathrebu yw'r allwedd i bob rhan arall o'u dysgu a'u rhyngweithio cymdeithasol.
|